https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/c24r9262r1lo


Cymru i chwarae yn Stadiwm Principality eto cyn Euro 2028

Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Noel Mooney yn dweud y bydd tîm y dynion yn dychwelyd i chwarae rhai gemau yn Stadiwm Principality cyn Euro 2028.

Tydi’r tîm cenedlaethol ddim wedi chwarae yno ers colli 4-1 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen yn 2018.

Stadiwm Dinas Caerdydd yw cartref y tîm ers rhai blynyddoedd bellach, ac maen nhw wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yn chwarae yno, gan gyrraedd Euro 2016, Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Ond gyda Chymru yn un o’r gwledydd fydd yn cynnal gemau yn Euro 2028, mae Mr Mooney yn dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw chwarae yn Stadiwm Principality cyn y gystadleuaeth.

“Er mwyn bod yn llwyddiannus yn Euro 2028 mae angen i ni ddod yn gyfarwydd gyda chwarae yn y stadiwm eto,” meddai Mr Mooney.

“Stadiwm Dinas Caerdydd yw ein cartref, a rydym wedi cael lot o lwyddiant yno’n ddiweddar.

“Mi oedd hi’n wych wynebu Canada yn Abertawe’n ddiweddar, a rydym eisiau mynd i Wrecsam yn amlach yn y dyfodol.

“Mi fydd hi’n brofiad gwych i ni chwarae’n y Principality eto. Er mwyn gwneud y mwyaf o Euro 2028 mae angen i ni wneud yn siŵr fod y chwaraewyr yn teimlo’n gyfforddus yn chwarae yno.

“Mae hi’n gwneud synnwyr i ni chwarae cwpl o gemau yno cyn Euro 2028.”