” . Euro 2025 i arwain at ‘fwy o fuddsoddiad ar lawr gwlad’Ffynhonnell y llun, Getty ImagesDisgrifiad o’r llun, Mae’r gymdeithas bêl-droed yn gobeithio y bydd y bencampwriaeth yn hwb i chwaraewyr y dyfodolDafydd MorganGohebydd BBC CymruCyhoeddwyd2 Gorffennaf 2025, 05:55 GMT+1Wedi ei ddiweddaru 5 awr yn ôlBydd rhagor o ffocws a buddsoddiad mewn pêl-droed llawr gwlad merched wedi pencampwriaeth Euro 2025, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru.Daw sylwadau arweinydd strategaeth pêl-droed menywod a merched y gymdeithas, Bethan Woolley wrth i ffigyrau ddangos cynnydd enfawr mewn diddordeb yn y gamp.Yn ôl ffigyrau’r gymdeithas, mae nifer y merched sy’n cymryd rhan mewn pêl-droed yng Nghymru wedi cynyddu 52% dros y pedair blynedd ddiwethaf.Y tîm cenedlaethol sydd wedi bod yn hawlio sylw CBDC pan ddaw hi at strategaeth gêm y merched dros y blynyddoedd diwethaf.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannyddDisgrifiad o’r llun, Dywedodd Lowri Roberts bod ffocws y gymdeithas wedi bod ar y tîm cenedlaethol hyd yma, ond bod hynny’n newidYn ôl Lowri Roberts, cyn-bennaeth pêl-droed merched gyda’r gymdeithas, mae’r buddsoddiad hwnnw wedi dwyn ffrwyth, gyda’r merched yn chwarae mewn prif gystadleuaeth am y tro cyntaf yn eu hanes yr haf hwn.”Gyda’r FAW (CBDC), dy’n nhw ddim yn federation anferth, ac felly does ‘na ddim bottomless pit o arian yna fel sydd gyda’r rhai mwy,” meddai.”Felly roedd rhaid i ni fod yn rili, rili glir gyda lle roedden ni’n mynd i ‘neud y buddsoddiad mawr yn y blynyddoedd cyntaf yna.”Dy’ch chi ddim yn gallu rhoi buddsoddiad mewn i bob dim ar yr un amser achos doedd y pres just ddim yna.”Felly dwi’n credu oedd hi’n iawn i roi’r ffocws ar y tîm cenedlaethol ar yr adeg yna, yn gwybod nawr bod y tîm yn gallu mynd i first major tournament, a hwnna yw’r step change ar gyfer gweddill y gêm.”‘Lot mwy o ferched eisiau chwarae’Ond mae’n bryd newid lle mae’r arian yn cael ei fuddsoddi, meddai.”Dwi’n credu be’ fyddwn ni’n gweld gan yr FAW ar ôl yr Ewros yw y ripple effect o’r tîm, gyda lot mwy o ferched eisiau chwarae, sy’n meddwl bydd angen lot mwy o ffocws ar y clybiau a’r strwythurau o fewn Cymru.”Dros y pedair blynedd ddiwethaf mae pêl-droed merched wedi tyfu’n sylweddol yng Nghymru.Mae ystadegau’r gymdeithas bêl-droed yn dangos 52% o gynnydd yn nifer y merched sydd wedi cofrestru yn y cyfnod hwnnw – o 12,742 yn 2021/22 i 19,345 yn 2024/25.Ffynhonnell y llun, CBDCDisgrifiad o’r llun, Dywedodd Bethan Woolley mai ffocws y gymdeithas fydd gwella pêl-droed merched ar lawr gwldCymryd mantais o’r twf gyda rhagor o fuddsoddiad yw’r nod nawr, yn ôl Bethan Woolley – arweinydd strategaeth pêl-droed menywod a merched y gymdeithas.”Dy’n ni wir eisiau rhoi’r ffocws ar y gêm ar lawr gwlad, gwneud yn siŵr bod ‘na ddigon o gyfleoedd i ferched chwarae yn yr ysgol, ar ôl yr ysgol, yn y gymuned, i neud yn siŵr bod y facilities yn addas i ferched ar draws y wlad.”Doedd y facilities ddim wedi cael y female friendly stamp yn y gorffennol oherwydd roedden nhw’n cael eu hadeiladu ar gyfer dynion.”Ry’n ni hefyd yn rhoi mwy o arian mewn i’r clybiau i ddatblygu, er mwyn gallu cael mwy o ferched yn chwarae wrth gyrraedd y tymor nesa’.”Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Iwan Rhys Jones fod cyrsiau hyfforddi a chyrsiau dyfarnu i ferched yn cael eu cefnogi hefydIwan Rhys Jones ydy hyfforddwr tîm dan naw oed merched Ogwen Tigers yn ardal Bethesda, Gwynedd.Dywedodd fod CBDC yn rhoi “mwy o flaenoriaeth i glybiau sydd efo timau merched”.”Ma’ nhw yn pwsio cyrsiau hyfforddi a cyrsiau dyfarnu i ferched hefyd.”Ella ar yr un llaw bysa rhai yn gallu dadlau dydyn nhw ddim cweit yn gwario digon ond ma’ nhw yn cynnig pethau am ddim i hybu’r gêm.”Disgrifiad o’r llun, Yn ôl Cara, dyw merched ddim yn cael chwarae teg o’i gymharu â’r dynionDywedodd Cara, sy’n chwarae i dîm merched dan-14 Ogwen Tigers, nad yw “genod yn cael y cyfle i ddangos eu talent, ac i gymharu efo’r dynion dydyn nhw ddim yn cael chwara’ teg”.”Dwi’n credu bod gan [ferched a menywod] lawer o dalent sydd ddim yn cael ei ddangos.”Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud bod y Cymru Football Foundation wedi buddsoddi £4m i ddatblygu cyfleusterau sydd yn gynhwysol i fenywod a merched ers 2022.Ychwanegon nhw fod £4.5m yn rhagor wedi cael ei wario ar gaeau artiffisial sydd wedi eu clustnodi ar gyfer mynediad wythnosol i fenywod a merched.Pynciau cysylltiedigPêl-droedCymdeithas Bêl-droed CymruChwaraeonTîm pêl-droed CymruStraeon perthnasol’Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yw’r peth pwysicaf am yr Euros’Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôlAnaf pen-glin ACL yn boen ‘dwi erioed wedi’i deimlo o’r blaen’Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôlEuro 2025: 6 ffaith ddiddorol Ffion ElunedCyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl . ”