Teyrngedau i 'gawr o ddyn', Trefor Lloyd Hughes, cyn-lywydd CBDC
Mae cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes, wedi marw yn 77 oed.
Yn 2007 cafodd ei urddo i’r Orsedd, ac ym mis Rhagfyr 2016 cafodd ei anrhydeddu gydag MBE am ei wasanaethau i bêl-droed – yn benodol ar Ynys Môn.
Bu’n ffigwr cyhoeddus amlwg yn ystod llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol yn ystod cyfnodau Gary Speed a Chris Coleman wrth y llyw.
Ym mis Mawrth 2015, fe gollodd y ras i gael ei ethol gan UEFA fel is-lywydd FIFA i David Gill – cyn-gyfarwyddwr Manchester United.
Roedd hefyd yn gynghorydd sir ar Gyngor Môn, gan gynrychioli Plaid Cymru yn Ynys Gybi tan ei farwolaeth.